Cyfarwyddiadau sut i gyrraedd y Gynhadledd a'r Cinio
Bwydydd Castell Howell
Bwydydd Castell Howell, Parc Busnes Cross Hands, Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, SA14 6SX – Gadewch yr M4 yng nghyffordd 49 (gwasanaethau Pont Abraham). Ewch o Bont Abraham i gyfeiriad Cross Hands a dilyn y slipffordd tua “Parc Busnes a Bwyd Cross Hands”. Trowch i’r chwith yn y gyffordd a chymryd y troad nesaf i’r chwith i le Bwydydd Castell Howell.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
The National Botanic Garden of Wales, Llanarthne, Carmarthenshire,
SA32 8HG
O’r gorllewin, Penfro/Caerfyrddin
Ar yr A48 i gyfeiriad Abertawe a’r M4, pan welwch arwydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru dilynwch y slipffordd. Ewch ymlaen i’r gylchfan gyntaf a chymryd yr allanfa gyntaf i’r chwith, gan ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
O’r dwyrain, Abertawe/Caerdydd
Ewch ar yr M4 i’r gorllewin i gyfeiriad Caerfyrddin. Cadwch ar yr A48 a phan welwch arwydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, dilynwch y slipffordd. Trowch i’r chwith yn y gyffordd T a dilyn y cyfarwyddiadau isod.
- Dilynwch y ffordd hon am hanner milltir i’r brif gylchfan a’r fynedfa ymwelwyr; cymerwch yr allanfa gyntaf i’r chwith oddi ar y gylchfan hon.
- Cadwch ar y ffordd hon ac yna cymerwch y troad cyntaf i’r dde i gyfeiriad Llanarthne. Dilynwch y ffordd hon ac, ar ben y bryn, trowch yn siarp i’r dde, lle gwelwch Fynedfa Orllewinol Gardd Fotaneg Genedlathol Cymru.
- Gyrrwch yn agos at y gât a phwyso botwm yr intercom ar y panel rheoli. Gofynnwch i’r sawl sydd yn y dderbynfa agor y gât.
You can download the Gala Dinner directions PDF here.
Llety
I chwilio am lety gyda graddau Croeso Cymru, ewch i
www.visitwales.co.uk
