Welsh Chefs Conference 2009
Tuesday 22nd & Wednesday 23rd September 2009
at Castell Howell Foods, Cross Hands.
Dewch i Ymuno â Ni
Eleni, yn ogystal â dros 50 o gyflenwyr bwyd, bydd cystadleuwyr yn ymgiprys yn rownd ragbrofol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru am y cyfle i gynrychioli Cymru a chael eu gwahodd i gystadlu am le yn Nhîm y DU ar gyfer cystadlaethau WorldSkills a/neu EuroSkills.
Cynhelir y Cinio Mawreddog yn harddwch Gardd Fotanegol Cymru lle caiff pob cwrs ei goginio ar eich cyfer gan wahanol gogydd. Bydd yn gyfle gwych i rwydweithio gyda chynadleddwyr ac arddangoswyr ac yn ffordd ardderchog o ymlacio ar ôl diwrnod cynhyrchiol.
Mae'r tocynnau'n costio £35.00 yr un neu £300.00 am fwrdd i ddeg o bobl.
Ar yr ail ddiwrnod, cewch weld rhai o gogyddion gorau Cymru'n dangos sut i baratoi a choginio bwyd rhagorol mewn arddangosiadau coginio rhyngweithiol, ac ar ddiwedd y dydd fe gawn ein gornest 'Ready, Steady, Cook' ein hunain.
Byddai'n drueni i chi golli'r fath achlysur!
Os hoffech wybod rhagor neu roi cynnig ar y cystadlaethau, ewch i'r dudalen Cystadlaethau.
I gadw lle yn y cinio, lawrlwythwch gopi o Ffurflen Archebu'r Cinio Mawreddog ei llenwi a'i e-bostio i: info@welshchefsconference.co.uk
