Gwybodaeth am y Gystadleuaeth
i Gogyddion
Pwy sy'n cael ymgeisio?
Cynhadledd Cogyddion Cymru yw'r dyddiad pwysicaf yn y calendr o ran cystadlaethau cogyddion yng Nghymru ac mae'n cynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru sy'n dewis cystadleuwyr ar gyfer gornest WorldSkills UK. Mae'r gystadleuaeth yn gyfle i gogyddion dan hyfforddiant ddangos eu sgiliau coginio.
Dewisir yr enillydd o blith cogyddion ifanc dawnus Cymru a gallai fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn WorldSkills.
Mae'r gystadleuaeth Ganolradd yn agored i bob cogydd sydd o dan 25 oed ar 1 Ionawr 2009 ac sy'n gweithio neu'n astudio yng Nghymru. Mae'r gystadleuaeth Uwch yn agored i gogyddion o bob oed a bydd y beirniaid yn chwilio am gogyddion medrus iawn a allai gynrychioli Cymru yng nghystadlaethau WACS.
Gair am y gystadleuaeth:
Mae'r gystadleuaeth Ganolradd yn rhoi awr a hanner (90 munud). Mae pob cystadleuydd i fod i baratoi, coginio a chyflwyno Prif Gwrs a Phwdin i ddau. Cyhoeddir pa broteinau i'w defnyddio yn y gystadleuaeth hon wythnos ymlaen llaw.
Mae'r gystadleuaeth Uwch yn rhoi dwy (2) awr. Mae hon yn gystadleuaeth i gogyddion o bob oed a bydd pob cystadleuydd yn paratoi, coginio a chyflwyno Pryd Tri Chwrs. Cyhoeddir pa broteinau i'w defnyddio yn y gystadleuaeth hon wythnos ymlaen llaw.
Caiff y cystadleuwyr eu hasesu ganddefnyddio'r meini prawf isod:
Disgwylir i'r cystadleuwyr baratoi nifer o wahanol brydau'n defnyddio cynhwysion penodol a nodir yng nghyfarwyddiadau'r gystadleuaeth a rhoi lle i'w dawn greadigol hefyd.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llwythwch Ffurflen Gais WorldSkills y D.U. 2009 i lawr a'i dychwelyd at
Karen Smith erbyn dydd Gwener 31 Gorffennaf 2009:
Ffurflen gais WorldSkills y D.U. 2009
Gwybodaeth am ymgeisio yn y gystadleuaeth
Ebost: info@welshchefsconference.co.uk
Ffacs: 029 2049 0291
Post to: Karen Smith, Cynhadledd Cogyddion Cymru,
Hyfforddiant Twristiaeth i Gymru, Uned 16 Adeiladau Frazer,
126 Heol Bute, Bae Caerdydd, CF10 5LE
Partneriaid y gystadleuaeth:
Trefnir y gystadleuaeth yng Nghymru gan Hyfforddiant Cambrian mewn partneriaeth â'r NTFW, Fforwm, TTfW, People 1st a The Hospitality Provider Network.
